Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr David Bailey, BMA Cymru Wales Dr Charlotte Jones, BMA Cymru Wales |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau bod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, yn methu â bod yn bresennol a bod ei sesiwn wedi'i hail-drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd.
2 Gofal heb ei drefnu: Sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Dr Charlotte Jones, Cadeirydd BMA, GPC Cymru, a Dr David Bailey, Dirprwy Gadeirydd BMA, GPC Cymru, ynghylch gofal heb ei drefnu.
Camau
gweithredu:
Cytunodd Dr Jones i anfon copi o'r papur 'Sorted in One Go', y papur 'Solutions' a'r ffigurau ar gyfer gwariant pob bwrdd iechyd fesul claf a fesul blwyddyn ar wasanaethau y tu allan i oriau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Gofal heb ei drefnu: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar ofal heb ei drefnu a chytunodd i ysgrifennu at y Cyngor Meddygol Cyffredinol i gael gafael ar y data y cyfeiriwyd atynt yn y sesiwn dystiolaeth flaenorol.
6 Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori’
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori a chytunodd i drafod y mater eto ar ôl i'r adroddiad blynyddol cyntaf gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2015.
7 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Cytuno ar yr adroddiad terfynol
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad. Awgrymwyd nifer o fân welliannau a chytunwyd y byddai drafft arall yn cael ei anfon ar gyfer cytuno arno y tu allan i'r pwyllgor.